Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 11 Chwefror 2021
Amser:
14.02 -
16.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11204
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Ann Jones AS (Cadeirydd) Mick Antoniw AS Jayne Bryant AS Janet Finch-Saunders AS Russell George AS John Griffiths AS Lynne Neagle AS Nick Ramsay AS David Rees AS Bethan Sayed AS |
Tystion: |
Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Des Clifford, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Dai Lloyd AS, Llyr Gruffydd AS a Mike Hedges AS.
Cafwyd y datganiadau o fuddiant a ganlyn gan Bethan Sayed AS a Mick Antoniw AS o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, nododd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
2 Ymateb Llywodraeth Cymru i’r pandemig Covid-19 a'r adferiad
Ar ran y Pwyllgor, gofynnodd y Cadeirydd i Dr Andrew Goodall ddiolch i holl staff y GIG am eu gwaith yn ystod y pandemig.
Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog o ran y camau gweithredu sy’n cael eu cymryd ar hyn o bryd mewn perthynas â’r pandemig COVID-19.
3 Materion yn ymwneud ag ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd
Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog o ran y camau gweithredu sy’n cael eu cymryd ar hyn o bryd mewn perthynas ag ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.
4 Papur(au) i’w nodi
4.1 Ymateb Llywodraeth Cymru i’r pandemig Covid-19 a'r adferiad. Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a thrafododd y mater hwn â’r Prif Weinidog yn ystod yr ail eitem ar yr agenda heddiw.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
Derbyniwyd y cynnig.
6 Trafod y sesiwn dystiolaeth flaenorol
Sylwadau gan y Cadeirydd i gloi
O gofio mai dyma gyfarfod olaf y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn ystod y Pumed Senedd, yn ôl yr amserlen bresennol, diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r Pwyllgor am eu gwaith. Hefyd, diolchodd i’r Prif Weinidog a’i swyddogion am ymgysylltu â gwaith y Pwyllgor ac i’r ysgrifenyddiaeth am gefnogi’r Pwyllgor gyda’i waith.